y cowydd a wnaeth dd ap gwylym i forfydd wedir saith a saith vgain
1 cywyddav twf cywiwddoeth
2 cof hardd am rhydd cathlfardd coeth
3 ni bv ag hwynt pwynt ympel
4 vn organ mor anirgel
5 maendy serch vnfam vndad
6 yw fy mron a wnai fy mrad
+1 herwr glan heb alanas
+2 hyna wyf oi fflwyf ai fflas
7 holl gwmpas y lleidrwas llwyd
8 or vn oll ir enillwyd
9 rhois iddi bob rhyw swyddav
10 rhygl foliant or meddiant mav
11 gwrddlef telyn ag orddloes
12 gormodd ro rhodd gwr meddw ai
rhoes
13 heais mal orav hian
14 y chlod yngwynedd wych lan
15 hydwyf i mae yn hedeg
16 had tew llyna head teg
17 pybyr fv pawb ar fy ol
18 ai pwyawdd ymhob heol
19 pater noster anistaw
20 pawb ar gant llofrdant llaw
21 ym hob cyfedd rhyfedd rhi
22 yw i cherdd yn wych yrddi
25 cans ar ddiwedd pob gweddi
26 cof cowir ir henwir hi
+3 pellwawd ywr ddyn nid pwyllwael
+4 pawb awyr pob ddyn hwyr hael
27 [378] chwaer ydiw towyn liw tes
28 i ferch wgon farchoges
29 vn llais wyf yn lle safai
30 ar gog morwyn gyflog mai
31 honno ni feidr ai hanwyd
32 eithr vn llais ai thoryn llwyd
33 ni thav y gog ai cogor
34 crygv mae rhwng craig a mor
35 ni chan gywydd lonydd lonyd lw
36 nag acken onid gwckw
37 gwys y mon mae gwas mynaich
38 fym i yn ormodd fy maich
39 yr hwn ni wna dda ddevtrew
40 lafyr ond vn lowfron dew
41 di lonydd bwyll ddidwyll ddadl
42 dylynais fal dal anadl
43 ded defnyddiaw yw hyrddaw hi
44 defnyddiav cerdd dwfn iddi
45 yn iach bellach heb allell
46 na chydd am dani na chel
47 talm sydd iddi os tolia
48 ag o dodir ar dir da
49 saith gowydd i forfydd fain
50 syth hoywgorff a saith vgain
51 a dyn oi chariad ydwyf
52 aed ag wynt di evawg wyf
53 ni ddeil gariad taladwy
54 ni ddyly hi i mi mwy
dauid ap gwylym ai cant